A Welsh adaptation of a humorous story about a very small boy who tries to get rid of his nickname by proving that he is not a baby. 32 black-and-white illustrations.
Nofel fer yw hon wedi ei haddasu gan Dylan Williams.
Mae'r arddull yn fywiog a'r iaith yn syml, gydag ymadroddion difyr a gwreiddiol.
Bachgen ar fin symud i'r ysgol uwchradd ydy Babi Bag Siwgwr, ac fel pawb yn yr un sefyllfa ag o, mae'n awyddus iawn i bopeth fynd yn hwylus yn ei ysgol newydd.
Ond, wrth gwrs, mae un broblem enfawr gan Babi Bag Siwgwr. Sut yn y byd y medr o symud i ysgol newydd a chael ei gymryd o ddifrif gydag enw fel yr hyn sydd ganddo?
Cawn gyfle i gydymdeimlo
Babi Bag Siwgwr, a hynny gan ein bod yn symud gydag o ar ei daith i geisio dod o hyd i enw newydd.Ond sut yn y byd y bydd yn llwyddo i berswadio pobl i gladdu'r hen enw plentynnaidd yna unwaith ac am byth?
Haf Llewelyn @ www.gwales.com