Little Footprints is about letting young children explore the Earth's environments and to discover through colouring and activities those things that threaten the survival of many animals.
Gwych o beth yw gweld deunydd gwreiddiol o'r safon yma yn y Gymraeg.
Mae'r llyfr gweithgareddau hwn yn un o gyfres newydd sydd oll wedi'u cynhyrchu o ddefnyddiau cynaliadwy ac yn wers gyntaf i blant bach sydd am ofalu am yr amgylchedd.
Y Goedwig Law yw'r thema, a chawn ddysgu ble mae'r Amazon ar y map, a beth sydd i'w gael mewn jyngl, yn blanhigion ac yn anifeiliaid.
Ar y diwedd ceir esboniad o'r problemau sy'n wynebu'r coedwigoedd glaw, a'r hyn y gallwn ni ei wneud i helpu; er enghraifft, dywedir ein bod yn torri'r coed er mwyn aredig y tir i dyfu cnydau, a hefyd na ddylwn ni wisgo ffwr anifeiliaid.
Ond tybed pam na sonnir am ein hangen i dorri coed er mwyn porthi gwartheg i ddarparu cig inni?
Er mwyn bod yn gyson, byddai angen ychwanegu 'peidio
bwyta cig' at y rhestr.
Ceir yma amrywiaeth eang o weithgareddau lliwio ac ati, sydd efallai ychydig yn anos na'r gweithgareddau yn y llyfr Pwy sy'n Cloddio yn yr Ardd? yn yr un gyfres.
Ar y cyfan, mae'r llyfr yma ychydig yn llai llwyddiannus na'r llyfr ar yr ardd gan nad yw'n gallu ein hannog i fynd allan i ddysgu mwy yn yr un modd.
Heather Williams @ www.gwales.com