Hurry, item low in stock!

Breuddwyd Sin Ap Rhys - Haf Llewelyn

9781847718419
Hurry only 1 in stock!
FREE Delivery on ALL Orders!
Title
Breuddwyd Sin Ap Rhys
Author
Haf Llewelyn
format
Paperback / softback
Publisher
Y Lolfa
Language
Welsh
UK Publication Date
20140211

A historical novel about two brothers living in poverty with their cruel uncle who try to find out the truth about their mother who has been accused of witchcraft and imprisoned.

We are Rated Excellent on Trustpilot
Here's what you say about us...

Nofel hanesyddol newydd i'r arddegau gan Haf Llewelyn "fyddai wedi plesio T. Llew Jones"

Yn l Bethan Gwanas, mi fyddai nofel ddiweddaraf Haf Llewelyn i blant a phobl ifanc wedi plesio'r nofelydd a'r bardd enwog T. Llew Jones.

Cyhoeddir Breuddwyd Sin ap Rhys gan wasg y Lolfa fel rhan o gyfres Pen Dafad, cyfres sydd wedi'i hanelu at ddarllenwyr yn eu harddegau cynnar yn ogystal
darllenwyr da ym mlynyddoedd olaf yr ysgol gynradd. Nofel hanesyddol yw Breuddwyd Sin ap Rhys sy'n dilyn helyntion dau frawd o Feirionnydd yn 1590. Gorfodir y ddau i fyw gyda'u hewythr creulon ar l i'w mam gael ei chyhuddo o fod yn wrach a'i chloi mewn carchar yn Nolgellau.

"Mi wnes i fwynhau hon - mae cyfnod y Tuduriaid yn gyfnod oedd yn bendant angen sylw yn y nofel Gymraeg," meddai Bethan Gwanas wrth adolygu'r nofel ar ei blog newydd (www.gwanas.wordpress.com).

"Fe fydd athrawon yn sicr yn falch iawn o'i gweld. Mae Haf Llewelyn yn dod 'r cyfnod yn fyw, a dwi'n siwr y bydd yn cydio yn nychymyg y darllenwyr. Ro'n i'n hoffi'r cymeriadau'n arw, yn enwedig Wmffra, y brawd bach sydd
gallu rhyfedd i drin anifeiliaid."

"Mi fyddai T Llew Jones wedi mwynhau hon," ychwanega Gwanas. "Roedd hi'n hen bryd cael nofel hanesyddol, llawn antur ar gyfer yr oedran yma, ac mi ddylai hon fod yn boblogaidd iawn."

Dyma ail nofel hanesyddol Haf Llewelyn i blant a phobl ifanc, yn dilyn cyhoeddi Diffodd y Sr y llynedd. Mae'r nofel yn adrodd stori ysgytwol bardd enwocaf Cymru, Hedd Wyn, a hynny drwy lygaid ei chwaer Anni.

"Dw i'n meddwl fod nofelau hanes yn brin i blant, sydd yn bechod achos mae stori fach yn ffordd dda o gyflwyno cyfnod hanesyddol," meddai Haf, sy'n gweithio fel athrawes ymgynghorol. "O'm profiad i, hefyd, mae'n anodd i ysgolion gael deunydd addas i gyflwyno hanes.

"Wrth wneud cyfnod y Tuduriaid efo'r plant wnes i 'sgwennu Breuddwyd Sin ap Rhys," ychwanega'r awdures. "Roedd hi'n broses braf iawn, achos o'n i'n cael eu hymateb i bob pennod - ro'n i'n 'sgwennu pennod ar gyfer pob wythnos, ac yn newid y cynllun yn l ymateb y plant."
Cyhoeddwr: Y Lolfa

Nofel ar gyfer pobl iau yn y gyfres Pen dafad ydi Breuddwyd Sin ap Rhys, a stori mewn traddodiad maith o blentyn yn cael cam gan 'ewyrth' creulon.
Roedd darllen y stori fywiog hon yn fy atgoffa am hanes Luned Bengoch a'i thebyg. Sin a'i frawd bach Wmffra ydi'r ddau sydd yn cael cam a hynny dan law eu hewyrth Simwnt Fawr sydd yn gofalu amdanynt tra bod eu mam yn y carchar, wedi ei chyhuddo o fod yn wrach.

Diwedd oes Elisabeth I, brenhines Lloegr, yw cyfnod y stori ac y mae yma sn am sofrenni aur, am arwyr o forwyr, am borthmyn ac am ymladd ceiliogod, ac fe lwyddir i greu awyrgylch y cyfnod yn hynod ddiffwdan. Ond prif nodwedd y gwaith ydi cymeriad annwyl a hoffus Sin, y bachgen cydwybodol a theyrngar. Mae Wmffra wedyn yn isgymeriad hudolus sydd angen rhywun i ofalu amdano yn barhaus.

Cynllwyn o eiddo Simwnt oedd carchau mam yr hogiau, er mwyn iddo ef gael gafael ar y ffortiwn mewn sofrenni aur a roddir iddynt er cof am eu tad a aberthodd ei hun i achub ei feistr Tomos Prys. Ond gyda chymorth yr hen wraig Beca, a Tomos Prys ei hun, ceir diweddglo hapus a chyfiawn. Ond mae addfwynder Sin yn peri nad oedd hyd yn oed cosb Simwnt cynddrwg ag y gallai fod.

Mae'r stori'n carlamu drwy'r pedair ugain tudalen ac mae Sin yn eich swyno o hyd. Cyfrol yn dyrchafu diniweidrwydd ac anwyldeb ydi hon, a bydd yn ddarllen llesol i gynulleidfa iau y dyddiau sinigaidd hyn.
John Roberts @ www.gwales.com

Type
BOOK
Keyword Index
Brothers - Juvenile fiction.|Historical fiction.
Country of Publication
Wales
Number of Pages
89

FREE Delivery on all Orders!