Broc Rhyfel - Martin Davis

9781847718792

Oops!

Unfortunately it looks like someone took the last one.

Sign up to the musicMagpieStore to be the first to hear about the latest offers, competitions and product information!

Sign up now
Title
Broc Rhyfel
Author
Martin Davis
format
Paperback / softback
Publisher
Y Lolfa
Language
Welsh
UK Publication Date
20140522

A thriller novel about 54 year old Keith Jones, a former arms-seller, and Nina Pluskar, a nineteen year old girl from Sarajevo who is tricked into travelling to the West, and becomes a captive of the sex trade.

We are Rated Excellent on Trustpilot
Here's what you say about us...

Nofel gyffrous am Keith Jones, 54 oed, cyn-werthwr arfau a Nina Pluskar, merch 19 oed o Sarajevo ym Mosnia Herzegovina sy'n cael ei thwyllo i deithio i'r Gorllewin a'i dal yn gaeth gan fasnachwyr y diwydiant rhyw.

Yn dilyn cyfnod fel masnachwr arfau ym Mosnia yn ystod rhyfel y 1990au, mae Keith yn anabl a'i iechyd meddwl yn fregus. Mae'n cael ei arteithio'n ddi-baid gan atgofion - ymhlith y gwaethaf mae damwain car a laddodd merch o Fosnia. Yn sgil sesiynau cwnsela, mae o'n penderfynu ymweld
bro ei febyd yn Eryri.

Ar yr un pryd, mae Nina wedi cael ei smyglo o Iwerddon i ogledd Cymru. Mae hi'n llwyddo i ddianc ac wrth ffoi, mae'n taro ar Keith ar fws ar ei ffordd i Landudno lle mae'r stori'n cyrraedd uchafbwynt dramatig ar Ben y Gogarth.
Weithiau gall ysbryd unigolion herio'r grymoedd mwyaf dieflig a dinistriol.
Cyhoeddwr: Y Lolfa

Fe wnes i fwynhau darllen y nofel hon yn fawr. Efallai mai'r elfen hanesyddol wnaeth apelio, neu'r cyffro a'r antur, neu efallai stori'r arwr (os arwr) Keith Jones, gwr 54 oed a chyn-werthwr arfau i wledydd ac unigolion amheus ar draws y byd.

Cefnlen y stori yw'r digwyddiadau cwta ugain mlynedd yn l pan wnaeth rhyfel erchyll a gwaedlyd rwygo'r hen Iwgoslafia'n ddarnau o wledydd 'newydd'. Down i ddeall ychydig o'r tyndra a drodd cymydog yn erbyn cymydog, ffrind yn erbyn ffrind a chwalu teuluoedd yn chwilfriw. Down hefyd i deimlo nad oedd y bobl gyffredin yn deall y rhesymau dros y rhyfel ond bod pawb yn cael eu llusgo i ganol y brwydro, doed a ddelo. Mae yna ambell olygfa wirioneddol gofiadwy, yn enwedig yr hyn welodd Keith pan oedd yn gloff ac yn gwylio'r rhyfel o'r lloches a gafodd gan Mwstaffa.

Ond yr un mor bwysig
stori Keith yw rl y merched yn y plot. Mae'r berthynas rhyngddo a'i wraig a'i ferched yn llawn tyndra, ac er ei fod yn ddigon di-hid am ei wraig, mae'n crefu am sylw ei ferched, a nhw sy'n rheoli'r sefyllfa honno'n llwyr. Ond nid yw sefyllfa'r ddwy ferch o'r Balcan cystal. Llwyddwyd i bortreadu Michela fel arwres ddewr a chryf ond hefyd mor fregus a dryslyd ynghanol yr ymladd a'r lladd. A bydd darllen am hanes Nina, a gafodd ei thwyllo i deithio i'r Gorllewin am 'fywyd gwell' yn dilyn y cadoediad, yn siwr o ennyn cydymdeimlad pob un darllenydd.

Mae llawer iawn o fanylion yma. Roedd hi'n syndod deall na fu'r awdur yn y rhan honno o'r byd ac mai ffrwyth dychymyg yw'r golygfeydd i gyd. Roedd ambell ddigwyddiad cyfleus tua'r diwedd, efallai, ac fe fyddwn wedi hoffi darllen mwy am ddirywiad perthynas Keith a'i wraig a chael ychydig mwy o wybodaeth am weithgareddau'r Mujahiddeen. Byddem wedi wir hoffi gweld sut oedd perthynas Keith a Michela'n parhau wrth geisio selio'r ddl am yr arfau. Ond barn bersonol yw hynny ac nid yw'n tynnu dim oddi ar y mwynhad o'r darllen.

Gyda llaw, bydd elw'r breindal yn mynd at Poppy Project, elusen sy'n cynnig cymorth i ferched sy'n llwyddo i ddianc o gaethiwed y diwydiant rhyw a heb ymgeledd mewn gwlad ddieithr - rheswm da arall dros brynu'r gyfrol.
Hefin Jones @ www.gwales.com

Type
BOOK
Keyword Index
Human trafficking - Sarajevo (Bosnia and Hercegovina) - Fiction.|Arms transfers - Fiction.|Sarajevo (Bosnia and Hercegovina) - Fiction.|Wales, North - Fiction.|Suspense fiction.
Country of Publication
Wales
Number of Pages
236

FREE Delivery on all Orders!