Creaduriaid hud Myrddin Ddewin - Graham Howells

9781848510197

Oops!

Unfortunately it looks like someone took the last one.

Sign up to the musicMagpieStore to be the first to hear about the latest offers, competitions and product information!

Sign up now
Title
Creaduriaid hud Myrddin Ddewin
Author
Graham Howells
format
Hardback
Publisher
Gomer Press
Language
Welsh
UK Publication Date
20081031

An interesting reference book to some of the best-known and interesting characters and beings in the mythical world. Can you tell the difference between a 'pwca' and a 'bwca', a 'bwbach' and a 'bwci bo'? No? Help is at hand. This book started life when its author discovered a set of manuscripts in a cave in the remote Carmarthenshire hills.

We are Rated Excellent on Trustpilot
Here's what you say about us...

Croeso i Fyd Myrddin
Myrddin. Dyna chi enw sy'n gysylltiedig
phob math o ryfeddodau ac mae'r chwedl amdano wedi datblygu dros y canrifoedd.
Mae'r gyfres deledu 'Merlin' ar y BBC yn tystio fod yna ddiddordeb byw iawn yn y byd hynod hwn sy'n llawn hud a lledrith.
Cyfeirlyfr i'r rhyfeddodau o fyd y chwedlau yn oes Myrddin yw Creaduriaid Rhyfeddol Myrddin Ddewin gan Graham Howells o Lanelli ac a addaswyd i'r Gymraeg gan yr Athro Gwyn Thomas o Fangor, awdurdod ar fyd chwedloniaeth.
Yn y rhagair meddai 'Ar hyd a lled Cymru, ar dir ac arfordir, y mae yna chwedlau a choelion am ryfeddodau, a dyma'r llyfr lle y dewch chwi o hyd iddyn nhw.'

Wrth droi'r tudalennau fe ddowch i wybod mwy am fodau rhyfedd gyda'r lluniau trawiadol yn sicr o'ch cyffroi.
Rhennir y cynnwys yn chwech adran hwylus - Dreigiau, Tylwyth Teg a Thylwyth Cas, Creaduriaid Cyfarwydd, O Dan y Ddaear, Creaduriaid Dwr a Chewri a Thrigolion Mynyddoedd.
Wyddech chi fod yna bum math o ddraig yng Nghymru?
Fedrwch chi ddweud y gwahaniaeth rhwng pwca a bwca, bwbach a bwci bo?
Ydy Gwrach y Rhibyn, Cath Palug a Bodach Glas yn enwau cyfarwydd i chi?
Efallai bod Twrch Trwyth a Chwn Annwn o'r Mabinogi yn greaduriaid fwy cyfarwydd.
Yn ogystal
darluniau, disgrifiadau ac esboniadau, cyfeirir at ardaloedd penodol yng Nghymru sy'n gysylltiedig 'r creaduriaid hyn.

Ffrwyth dychymyg yr awdur/arlunydd Graham Howells yw'r llyfr hwn.
Pan ddaeth o hyd i gyfres o lawysgrifau mewn ogof bellennig ym mynyddoedd Sir Gr, teimlai'n lled hyderus ei fod wedi darganfod gwaith Myrddin ddewin ei hun!
Ers y darganfyddiad hynod hwnnw, bu'n ddiwyd yn addasu testun Myrddin ar gyfer y darllenydd modern, gan ychwanegu ei ddarluniau ei hun i ddod 'r wybodaeth hynafol yma'n fyw o flaen ein llygaid.
Dyna'r sbardun tu l Creaduriaid Rhyfeddol Myrddin Ddewin.
Cyhoeddwr: Gomer

Dyma lyfr clawr caled i'w drysori. I'm bechgyn 5 a 7 oed sydd wrth eu bodd ym myd hud a lledrith, fe afaelodd y llyfr o'r eiliad gyntaf, a hynny oherwydd y darluniau gwych ar y clawr. Yn fras, yr hyn a geir yn y llyfr hwn yw ffeithiau am bob math o greaduriaid sydd yn ein lln gwerin ni, a choelion oedd yn gyffredin ac sy'n dal i fod yn gyffredin mewn ambell ardal. Yn y cyflwyniad fe nodir fod llawysgrifau gwreiddiol y Dewin Myrddin wedi'u darganfod mewn ogof yn Sir Gaerfyrddin, ac yno fe ddarganfuwyd llawysgrif oedd yn disgrifio creaduriaid hud.

Y Ddraig Goch, wrth reswm, sy'n cael y lle blaenllaw ar y dudalen gyntaf. A gwych oedd clywed y plant yn ailadrodd
y disgrifiadau ohoni ? disgrifiadau fel 'dwy adain fawr fel rhai ystlum', 'pedwar bys fel crafanc' a 'chynffon fachog'. Oherwydd mai byr yw'r penodau am bob creadur, mae'n rhoi cyfle i blentyn ailadrodd yn syth yr hyn a ddysgodd, ac i ofyn cwestiynau. Er doedd gen i ddim ateb i'r cwestiwn pam fod y Bodach Glas yn mynd i lawr simneiau i ddwyn plant drwg?! Ond fe fihafiodd y ddau acw wedi darllen y stori honno, a mynd i'w gwelyau'n syth!
 
Mae'r rhan fwyaf o'r creaduriaid yn y gyfrol yn cael eu lleoli mewn ardal benodol yng Nghymru. Dywedir bod
Gwragedd Annwn wedi cael eu gweld yn Llyn Barfog yng Ngwynedd. Yn siroedd Brycheiniog a Mynwy y cafodd Gwyllon eu gweld. Ym mynyddoedd y Preseli y lladdodd y Twrch Trwyth ddau o feibion y Brenin Arthur, ac ogofu yw cartref Coblynnod, yn l y sn. A thrwy enwi ardaloedd penodol yng Nghymru, mae'r straeon hyn yn gafael yn nychymyg plentyn. Mae'r cyffro, yr edmygedd
a'r ofn yn amlwg ar eu hwynebau.

Dros y Sul, fe aethom ni i draeth Llangrannog, ac roedd hi'n bleser gweld y plant yn rhedeg tuag at y creigiau, nid er mwyn ffugio bod yn Spider-man neu'n Power Ranger, ond er mwyn esgus taw Bwca Pwca, Bwganod a Cheffylau Dwr oedden nhw yn llercian yn yr ogofu ar y traeth. Mae'r math yma o straeon at ddant bechgyn, sydd bellach yn rhy hen i wylio rhaglenni Cyw ar S4C. Byddai cartwnau gyda'r cymeriadau yma ynddynt yn berffaith ar eu cyfer. Cymeriadau ffiaidd yr olwg, straeon annymunol ? dyna sy'n cydio yn nychymyg y meibion, a hyd yn hyn, beth bynnag, dwi'n falch o ddweud nad yw'r cymeriadau yma wedi treiddio i mewn i'w breuddwydion nhw! A chan fod y gyfrol yn cael ei disgrifio fel 'llyfr o hunllefau hudolus', mae hynny'n dipyn o ryddhad!

Straeon bachog, a lluniau gwych ? mae'r llyfr hwn yn anrheg ben-blwydd berffaith, sy'n debyg o yrru ias i lawr asgwrn cefn ambell blentyn ac ambell oedolyn hefyd!
Iola Wyn @ www.gwales.com

Type
BOOK
Keyword Index
Animals, Mythical - Juvenile literature.|Monsters - Juvenile literature.|Fairies - Juvenile literature.
Country of Publication
Wales
Number of Pages
68

FREE Delivery on all Orders!