The autobiography of one man through his enormous and fascinating collection of books, a collection which he began with his pocket money when he was 9 years old. Morgan. This personal record says as much about Gerald Morgan, this interesting Welshman as it does about his wonderful collection.
Mae awdur y gyfrol fach hon yn adnabyddus iawn fel awdur cryn nifer o gyfrolau ar hanes a hanes lleol yn arbennig, ond faint o bobl sy'n gyfarwydd
hanes y dyn ei hun? Yma cawn ddysgu rhywfaint amdano, o'i blentyndod di-Gymraeg yn Brighton, drwy ei yrfa fel athro, prifathro, ac yna fel darlithydd yn yr Adran Efrydiau Allanol yn Aberystwyth. Cawn ddysgu mai Cymro ydyw mewn gwirionedd o ran ei dras, ond yn bennaf cawn ddysgu am ei ddiddordeb byw mewn llyfrau ac yn enwedig mewn casglu llyfrau - hen lyfrau Cymraeg yn benodol. Nid yw'r diddordeb hwn yn syndod o ystyried ei ddiddordeb mewn hanes, a difyr iawn fu darllen am ei anturiaethau wrth gasglu llyfrau, ac am y cymeriadau lliwgar y daeth ar eu traws.
Dechreuodd ei ddiddordeb mewn llyfrau yn ifanc: adar oedd ei ddiddordeb cyntaf, ynghyd
phobloedd brodorol America. Ond yn raddol cydiodd yr awydd ynddo i gasglu yn fwy systematig yn sgil astudio llenyddiaeth Saesneg yn yr ysgol a'r Brifysgol, ac wrth i'w ddiddordeb yn y Gymraeg gynyddu. Ond nid casglu er mwyn casglu a wni. "Y peth pwysig," meddai, "oedd cael hyd i destunau er mwyn eu darllen." Y diddordeb hwn yn eu cynnwys sy'n gwneud perthynas yr awdur 'i lyfrau yn un mor ddiddorol i ddarllen amdani.
Mae'n amlwg ei fod yn cael ei ddenu at y cyfnod cyn 1800, sydd wedi cael ei weld fel trobwynt rhwng oes aur llenyddiaeth Gymraeg a dechrau masnach lyfrau'r oes ddiwydiannol. Yn sicr, dirywiodd ansawdd argraffu (a phapur) tua'r adeg honno, a daeth llyfrau Cymraeg yn llawer mwy niferus a phoblogaidd wrth i drwch y boblogaeth ddysgu darllen a dechrau prynu deunydd darllen ar raddfa fawr.
Cafodd yr awdur ei swyno gan gynnyrch y cyfnod hwn, yn enwedig gan y baledi a gyhoeddwyd yn eu miloedd gan argraffwyr Llanrwst a'r ardal gyfagos yn y 19eg ganrif, ond a gollwyd gan amlaf gan eu bod yn bethau bach di-nod ar y pryd. I raddau helaeth, mae'r we wedi dinistrio llawer o'r antur a'r cyffro wrth chwilio am drysorau coll mewn hen siopau (a sguboriau!). Mae llawer llai o fargeinion ar gael y dyddiau hyn, a phrin y gellid dychmygu y gallai rhywun heddiw wneud y fath gasgliad.
Llyfr difyr, diddorol, a darllenadwy. Dysgais lawer iawn am lyfrau a llawer hefyd am yr awdur ei hun, wrth fynd heibio, fel petai!
Ann Parry Owen @ www.gwales.com