It's 1969 and Gwyn Phillips is on the cusp of adulthood. It's a big year and Wales is changing, but Gwyn is ready. An accidental meeting fifty years later reminds him of a scandal, a deception and long-kept secrets. But do the events of 1969 tell the whole story and will Gwyn have to remember things he'd long repressed?
Ond a yw'r hyn a ddigwyddodd yn 1969 yn adrodd y stori gyfan ac oes rhaid i Gwyn edrych o'r newydd ar yr hyn a wthiod i gorneli ei gof?
Cyhoeddwr: Gomer
Beth sy'n digwydd i'r meddyg Gwyn Philips pan mae'n dod wyneb yn wyneb
rhywun o'i orffennol mewn ward ysbyty?
Aiff y cyfarfyddiad annisgwyl hwn
ni yn l i gyfnod ei lencyndod yn 1969; ac i gartref dau deulu mewn pentref diwydiannol yng Ngorllewin Morgannwg. Cysylltir y ddau deulu 'i gilydd drwy gyfeillgarwch y meibion pymtheg mlwydd oed, Gwyn a Rhodri.
Teulu dosbarth gweithiol cyffredin sydd yn byw mewn ty cyngor yw'r Philipsiaid, y tad a'r brawd hynaf yn gweithio yn y gwaith dur lleol a'r fam mewn ffatri sigrs. Ceir portreadau byw a chredadwy o aelodau'r teulu hwn gyda defnydd hyfryd o dafodiaith yr ardal yn rhoi lliw i'r cymeriadau a dod
nhw a'u cynefin yn fyw i'r darllenydd. Mae gan y teulu hwn safonau moesol uchel, a phan fo Gari'r brawd hynaf yn datgelu ei fod wedi gwneud rhywbeth i ostwng y safonau hynny, mae'n ennyn condemniad hallt gan ei dad sy'n poeni beth fydd ymateb y gymdeithas leol.
Teulu'r Mans yw'r teulu arall sy'n byw ar gyrion y pentref. Pobl ddwad, ddosbarth canol, gyda'u tafodiaith wahanol a'u harferion dieithr, fel mynychu cyngherddau yn Neuadd y Brangwyn a mynd i ffwrdd ar eu gwyliau. Ar yr olwg gyntaf,
mae ymwneud aelodau'r teulu hwn 'i gilydd yn barchus a sidt. Fodd bynnag, mae yna gyfrinach yn llechu o dan yr wyneb - cyfrinach a fydd yn gadael ei hl ar y cymeriadau am yr hanner can mlynedd nesaf.
Mae hon yn stori sy'n gafael, a chawn ein tynnu i mewn i fyd y ddau deulu a sut mae gwahanol aelodau'r teuluoedd yn ymateb i gyfrinachau a throeon bywyd. Mae'r awdur yn llwyddo'n ardderchog i'n dwyn yn l i 1969, nid yn unig wrth iddo groniclo digwyddiadau mawr y flwyddyn honno, fel yr Arwisgo a gorchest dyn yn cyrraedd y lleuad, ond hefyd drwy gyffyrddiadau a disgrifiadau bach cynnil, fel y disgrifiad o fyrddau fformeica a soffas finyl. Roeddwn yn arbennig o hoff o'r disgrifiad o gt neilon denau y fam a'i gwisgai'n barhaus yn lle brat "gydag l gwynt sawl pryd bwyd yn gaeth yn y defnydd annaturiol, marwaidd".
Mae'r awdur yn ymdrin ag emosiynau ei gymeriadau yn hynod o effeithiol a sensitif. Wrth ddarllen y stori hon, roeddwn yn teimlo fy mod yn adnabod y cymeriadau ac roeddwn yn poeni beth fyddai'n digwydd iddynt. Ardderchog yn wir!
Bet Jones @ www.gwales.com