Dewch at eich gilydd - Meg Elis

9781907424793

Oops!

Unfortunately it looks like someone took the last one.

Sign up to the musicMagpieStore to be the first to hear about the latest offers, competitions and product information!

Sign up now
Title
Dewch at eich gilydd
Author
Meg Elis
format
Paperback / softback
Publisher
Gwasg y Bwthyn
Language
Welsh
UK Publication Date
20151028

A lively and timely novel which follows four candidates in one constituency during the 2016 National Assembly Election Campaign. Will they grow closer within their political bubble as they battle for votes? Or will they become sworn enemies?

We are Rated Excellent on Trustpilot
Here's what you say about us...

Os yw wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, mae tirwedd wleidyddol unrhyw wlad yn gallu newid yn syfrdanol dros gyfnod ysgrifennu nofel. Pan ddechreuodd Meg Elis ar nofel wleidyddol sy'n olrhain hanes yr ymgyrch mewn un etholaeth ymylol yn etholiad y Cynulliad yn 2016, roedd tirwedd wleidyddol Prydain yn bur wahanol i'r sefyllfa heddiw, ond mae'n dangos mai'r un math o bryderon sy'n blino ymgeiswyr etholiadol, beth bynnag sy'n digwydd yn y byd ehangach.

Ceir pedwar ymgeisydd yn y frwydr i ennill Powys Fadog, etholaeth newydd a ffurfiwyd yn sgil newid ffiniau. Dyw hi ddim yn cael ei chyfrif yn etholaeth wledig, ond dyw hi ddim yn gwbl drefol chwaith; ar y ffin ond gyda thalpiau helaeth ohoni sy'n Gymreigaidd ac yn Gymraeg iawn. Ys dywed un o'r cymeriadau: 'Swnio i mi fel tasat ti newydd ddisgrifio Cymru gyfan'.

Mae'r ymgeiswyr hwythau'n cynrychioli agweddau amrywiol o Gymru ac at Gymru, ac mae'r nofel yn agor gyda phennod fer o orffennol pob un ohonyn nhw'n egluro eu cefndir gwleidyddol. Cafodd Lowri, ymgeisydd Plaid Cymru, ei geni - yn llythrennol - i ganol berw gwleidyddiaeth wrth i'w rhieni wrando ar ganlyniadau etholiad cyffredinol Chwefror 1974 yn ward geni plant Ysbyty Dewi Sant ym Mangor, ac fe welwn Daniel, yr ymgeisydd Llafur, yn gwneud yn fawr o'i gefndir glofaol wrth ymuno
chymdeithasau yn Ffair y Glas y London School of Economics yn 1989. Y ddau hyn sy'n cael y lle amlycaf yn y stori, ac er eu bod yn gymeriadau digon difyr, hoffwn fod wedi cael gwybod mwy am Ruth, yr ymgeisydd difyrraf o bosib, gyda'i gwallt cwta gloywddu, ei BMW glas a'i DMs coch sydd 'ddim cweit yn ffitio i'r patrwm traddodiadol' o ymgeisydd dros y Ceidwadwyr.

Nofel i bobl sydd
diddordeb mewn gwleidyddiaeth - a gwleidyddiaeth Cymru'n enwedig - yw hon yn bennaf. Mae gofyn am ryw fesur o ddealltwriaeth o'r drefn etholiadol a'r berthynas rhwng y pleidiau, ac mae cefndir Meg Elis fel cyn-ymgeisydd wedi llywio a lliwio llawer o'r hanes, yn enwedig pan fydd yr ymgeiswyr yn mynegi eu teimladau a'u rhwystredigaethau, a hynny gyda dychan digon crafog.

Creu byd dychmygol mae awdur mewn nofel, a dewis yr awdur yw beth i'w gynnwys yn y byd hwnnw. Fodd bynnag, mae'n anodd crwydro'n rhy bell i ffantasi mewn stori sydd wedi'i seilio ar rywbeth fydd yn digwydd ymhen ychydig fisoedd, ac mae l ailddrafftio celfydd ar rannau o'r nofel yn sgil canlyniad refferendwm annibyniaeth yr Alban, a hyd yn oed etholiad cyffredinol 2015.

Fel y byddid yn disgwyl mewn nofel am wleidyddiaeth, ceir dichell, celwydd a thwyll, ac unwaith i ni ddeall pwy yw pwy - cawn ein cyflwyno i haid o gymeriadau ar y dechrau - mae'r stori'n symud yn ei blaen yn ddigon sionc.

Dyw pob cwestiwn ddim yn cael ei ateb yn llawn - pam yn union na chafodd Lowri sedd saff i'w hymladd? Beth sy'n achosi'r islais anesmwyth ym mhriodas Gwynne? Ond un ymgyrch ar gyfer un etholiad yw'r nofel hon, ac ar l y diwrnod pleidleisio, bydd pawb yn dygymod 'r canlyniad a bywyd yn mynd yn ei flaen. Byddai'n ddifyr ailgyfarfod
nhw a dysgu mwy amdanyn nhw adeg yr etholiad nesaf.
Catrin Beard @ www.gwales.com

Type
BOOK
Keyword Index
Political campaigns - Wales - Fiction.
Country of Publication
Wales
Number of Pages
248

FREE Delivery on all Orders!