Dial y diafol - Michael Lawrence

9781848512559

Oops!

Unfortunately it looks like someone took the last one.

Sign up to the musicMagpieStore to be the first to hear about the latest offers, competitions and product information!

Sign up now
Title
Dial y diafol
Author
Michael Lawrence
format
Paperback / softback
Publisher
Gomer Press
Language
Welsh
UK Publication Date
20110331

Neville is part of the Little Devils network, and his reappearance in Jiggy's life brings chaos and confusion to young Jiggy and his friends Pete and Angie. A Welsh adaptation of Neville the Devil (Orchard, 2009).

We are Rated Excellent on Trustpilot
Here's what you say about us...

O'r cychwyn cyntaf, roedd gan Jigi deimlad od ynglyn 'i wyliau gyda Pt ac Anni - teimlad nad oedd pethau'n mynd i droi allan fel y dylen nhw.
Wrth i un peth ar l y llall fynd o'i le, mae'n rhaid i'r criw anghofio am eu gwyliau anturus i Wlad yr I-Hw, a threulio pythefnos go ddiflas yr olwg yn nhref glan mr Llanllwydni-ger-y-lli.
Ond, wrth gwrs, mae Jigi a'r criw yn achosi helynt unwaith eto, wrth i hen ffrind bach dieflig ddod i darfu ar eu hwyl.

************************************

Gwyliau yn Llanllwydni-ger-y-lli?


Mae tymor y gwyliau yn agosu, y diwrnod yn ymestyn a pharatoadau cyffrous ar y gweill neu wedi eu nodi ar y calendr ers tro.
Un peth sy'n sicr, mae plant wrth eu bodd
gwyliau a dyw Jigi, Pt ac Anni ddim yn eithriadau yn hynny o beth!
Dyma'r criw o ffrindiau sy'n serennu yng nghyfres hwyliog Jigi ap Sgiw gan wasg Gomer ac newydd ei gyhoeddi mae Stori Jigi ap Sgiw: Dial y Diafol a addaswyd i'r Gymraeg gan y comedwr Matthew Glyn.
Y brodyr Daniel a Matthew Glyn fu'n gyfrifol am greu gwedd Gymreig ar straeon poblogaidd Michael Lawrence gyda'u hiwmor arbennig yn taro deuddeg gyda'r gynulleidfa ifanc, yn enwedig y bechgyn.

Jigi ap Sgiw - dyna chi foi ac mae'r gair 'sgiwiff' ei hun yn awgrymu rhywbeth sydd ddim yn berffaith.
O'r dechrau'n deg roedd gan Jigi deimlad od ynglyn 'i wyliau gyda Pt ac Anni - teimlad nad oedd pethau'n mynd i droi allan fel y dylen nhw. Hedfan mewn awyren am y tro cyntaf i Wlad yr I-Hw oedd yn ei gyffroi fwyaf ond daw'r siom cyntaf wrth gyrraedd y maes awyr yn hwyr a cholli'r awyren.

'Dim ond un peth allwn ni'i neud,' meddai Dad.

'Mynd adre,' meddai Oliver.

Ond o rywle daw dyn i holi os hoffai'r teulu wyliau mewn fflat yn Llanllwydni-ger-y-lli am wythnos - lle hyfryd, traddodiadol .
Fel arfer fyddai ef wedi mynd yno, ond roedd rhywbeth wedi codi ar y funud olaf.
Wedi meddwl am ychydig, y canlyniad oedd bod pawb o deuluoedd Jigi, Pt ac Anni yn cytuno y byddai hyn yn well na gorfod mynd adre,
A dyna ddechrau'r antur wallgo.
Daw pwer bach dieflig yn l i ddrysu eu cynlluniau a tharfu ar yr hwyl yn nhref glan mr Llanllwydni-ger-y-lli.
Ond mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth yn ystod y pythefnos o wyliau wrth i Jigi a'i ffrindiau fynd o un helynt i'r nesa!
Cyhoeddwr: Gomer@Atebol

Mae gan Jigi deimlad fod rhywbeth drwg ar droed, a hynny reit ar ddechrau ei wyliau. Wrth iddo ef, ei deulu a'i ffrindiau gyrraedd Llanllwydni, mae pawb yn sylweddoli efallai nad oedd o'n bell o'i le wedi'r cwbl! Ydyn, mae'r teulu yn cloi eu hunain ar gam y tu fewn i'r ty. Oes, mae un ohonyn nhw'n mynd ar goll. Oes, mae digwyddiadau
rhyfedd ar y naw yn digwydd. Ond dim ond megis dechrau mae pethau, wrth i Dan y Diafol ddod i'w byd. Bydd pethau byth yr un fath eto! Wrth i'r pwtyn bach dieflig darfu ar wyliau Jigi, mae'r antur fawr wallgo' yn dechrau!

Byrlyma'r nofel o'i thudalen gyntaf, ac mae'r stori ei hun yn gymysg o gymeriadau byw a boncyrs - o gecru di- baid teulu Jigi, er gwaetha' ymdrechion Mam druan, i deganau yn dod yn fyw a'r rheiny mor ddigywilydd
neb ar y blaned hon! Yn frith o gyfeiriadau at weddill y gyfres, mae'r awdur yn ein harwain yn gyfrwys at straeon eraill Jigi. Ac wrth iddo ffarwelio wedi un corwynt o antur ar draeth Llanllwydni, mae olion Dan y Diafol dal ar l, ac ni chawn wybod tan y stori nesa' os ydy'r bwgan bach wedi newid bywyd Jigi am byth!
Llinos Griffin @ www.gwales.com

Type
BOOK
Keyword Index
Vacations - Juvenile fiction.|Children's stories.|Humorous stories.
Country of Publication
Wales
Number of Pages
347

FREE Delivery on all Orders!