What's lurking outside? A dragon, a ghost, a witch or a monster. An adaptation of I'm Not Going Out There!
'Dwi ddim am fentro allan!' meddai'r bachgen bach sy'n cuddio oddi wrth rywbeth - ond beth, tybed?
Y ddraig ddrwg sy'n poeri tn?
Ysbryd mewn gwisg wen?
Y ddwy wrach hylla'n y byd, ynteu'r bwystfilod sy'n dawnsio bale?
Stori ddifyr yw hon sy'n llawn lluniau lliwgar ac fe'i hysgrifennwyd ar ffurf cwpledi ac odl.
Mae'r frawddeg 'Dwi ddim am fentro allan!' yn cael ei hailadrodd yn aml, ac felly mae'n rhoi cyfle i'r plentyn rannu'r testun gyda'r oedolyn.
Mae'r print yn mynd yn fwy ac yn fwy bras wrth i'r stori fynd yn ei blaen, ac felly ceir sbort wrth gyd-ddarllen y frawddeg hon yn uwch ac yn uwch.
Nid yw'r bachgen bach yma am ddod allan o'i guddfan!
Mae'r stori gyffrous hon yn addas i blant bach ac i'r rheiny sy'n dysgu neu'n medru darllen. Mae hi'n siwr o blesio!
Catrin Rhys Evans @ www.gwales.com