A title in the short and fast-paced series Quick Reads. A man returns to the town where he grew up to start a new chapter in his life following his marriage breakdown. He has suffered from terrible nightmares for years - nightmares that become more regular after his move to the new flat.
Read the Quick Reads/Stori Sydyn bilingual magazine:
http://www.cllc.org.uk/3140.file.dld
Publisher: Y Lolfa
Un o'r cyfresi mwyaf llwyddiannus a gyhoeddwyd yn ddiweddar yng Nghymru yw Stori Sydyn. Bwriad y gyfres yw annog pobol i ddarllen ac i brynu llyfr am bris rhad iawn. Mae'r gyfres yn amrywiol - hyd yma rydym wedi cael straeon am selbs megis Courtney Hamilton a thm pel-droed Abertawe, ac un arall o gyfrolau'r gyfres yw Hunllef gan yr awdur llwyddiannus a phoblogaidd Manon Steffan Ros.
Stori sydd yma am wr canol oed o'r enw Glyn sydd wedi dychwelyd i Dywyn wedi i'w briodas chwalu. Ei fwriad yw creu bywyd o'r newydd iddo'i hun ond mae hynny yn profi'n rhyfeddol o anodd wrth iddo gael un hunllef ar l y llall. Mae'r hunllefau i gyd yn weddol debyg - ymhob un fe ymddengys dynes oedrannus a gwyd ofn dychrynllyd ar Glyn. Mae Glyn yn ofni gymaint nes ei fod, yn y diwedd, yn gorfod ymweld 'r ficer er mwyn cael cyngor a cheisio cael gwared ar unrhyw rymoedd oruchnaturiol a all fod yn ei gartref. Wrth ddarllen erthygl papur newydd am ddamwain angeuol a ddigwyddodd dro yn l fe ddaw pethau yn gliriach i Glyn, ac ymhen hir a hwyr cawn wybod pam ei fod wedi'i ormesu gan hunllefau o'r fath.
Ar un olwg dyw hon ddim yn stori gredadwy iawn ond eto, tan y dudalen olaf, mae'n stori sy'n annog y darllenydd i gyrraedd y diwedd - a dyna'r nod, wrth gwrs. Mae'r cyfan wedi cael ei ysgrfennu mewn arddull syml sy'n annog y sawl sydd, fel arfer, yn gyndyn i ddarllen, i ddyfalbarhau. Ceir cyffro, yn sicr, a dyfalu tan y tudalennau olaf. Mae'r disgrifiadau hefyd yn ddigon rhwydd a chyfoes, a dylai'r gyfrol, heb os, annog darllenwyr i ddarllen mwy o straeon y gyfres Stori Sydyn. Mae Hunllef wedi fy annog i ddarllen straeon a nofelau eraill gan Manon Steffan Ros.
Sarah Down @ www.gwales.com