Nadolig yn y Cartref - Luned Aaron

9781845277161

Oops!

Unfortunately it looks like someone took the last one.

Sign up to the musicMagpieStore to be the first to hear about the latest offers, competitions and product information!

Sign up now
Title
Nadolig yn y Cartref
Author
Luned Aaron
format
Hardback
Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Language
Welsh
UK Publication Date
20191014

A colourful and playful volume of rhyme and artwork which will be enjoyed and treasured by young children during the period leading up to Christmas. Attention is given to some familiar elements of the festival, together with less familiar, simple Welsh customs.

We are Rated Excellent on Trustpilot
Here's what you say about us...

Sychu ffrwythau, dewis yr uchelwydd gorau, canu carolau o ddrws i ddrws...

Mae'r Nadolig yn llawn traddodiadau hyfryd y gallwn eu mwynhau gyda'n gilydd. Dyma elfennau cartrefol a syml, sy'n gallu mynd ar goll ynghanol prysurdeb yr wyl.

Gyda 24 llun a chwpled sy'n adlais o dymor yr Adfent, cyflwyniad i rai o'r agweddau traddodiadol hynny sydd yn Nadolig yn y Cartref.
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch

Dyma gyfrol newydd yng nghyfres Byd Natur lwyddiannus Luned Aaron. Enillodd ABC Byd Natur wobr Tir na n-Og yn 2017, ac roedd Lliwiau Byd Natur ar restr fer y wobr yn 2019.

Yn y gyfrol clawr caled hon, ceir 24 llun a chwpled sy'n adlais o dymor yr Adfent. Cyflwynir elfennau cyfarwydd yr wyl i blant - stori'r geni, y goeden a'i haddurniadau, y bwydydd blasus, yn ogystal
thraddodiadau llai cyfarwydd, efallai, fel sychu ffrwythau a choginio taffi euraid. Ceir yma bwyslais clir ar rannu ac at ddod ynghyd, yn deulu a ffrindiau, i ddathlu a mwynhau nid yn unig elfennau cartrefol yr wyl yn llawn, ond i gofio hefyd am stori'r baban Iesu.

Unwaith eto, ceir yma ddelweddau collage gwreiddiol i gyd-fynd
phob cwpled. Mae'r gwaith celf cain yn llwyddo i ddod 'r tymor yn fyw; yn wir, byddai sawl un o'r delweddau yn gwneud cardiau Nadolig hyfryd! Mae'r lluniau clir a syml yn rhai a fydd yn sicr yn ysbrydoli ac yn annog plant i'w dilyn a'u copo er mwyn creu eu gweithiau celf a'u collages Nadoligaidd eu hunain.

Drwy'r briodas gynnes rhwng y gwaith celf a'r testun, llwydda'r gyfrol i gyflwyno amrywiaeth o syniadau am weithgareddau i'w mwynhau ar y cyd yn y cyfnod cyn - ac yn ystod - yr wyl. O greu papur lapio a chardiau Nadolig, i bobi mins-peis i'w rhoi yn anrhegion, neu fynd am dro i chwilio am robin goch.

O ran maint, mae'n llyfr gweddol fychan ac felly'n berffaith i'w chario o le i le, mewn poced neu fag, yn y cyfnod prysur hwnnw cyn y Nadolig. Dyma lyfr hyfryd y gall plentyn ei fodio'n fodlon, ei ddarllen ar ei hyd neu'n ddyddiol fesul tudalen dros gyfnod yr Adfent.
Mari Sin @ www.gwales.com

Type
BOOK
Keyword Index
Advent - Wales - Pictorial works - Juvenile literature.|Advent - Wales - Pictorial works - Poetry.|Christmas - Wales - Pictorial works - Juvenile literature.|Christmas stories.|Stories in rhyme.
Country of Publication
Wales

FREE Delivery on all Orders!