
The third volume of a series of full colour illustrated poetry books for primary school children. This volume comprises a humorous collection of appealing poems by Margiad Roberts, with lively illustrations by Helen Flook.
Cynllun sydd wedi talu ar ei ganfed yw cynllun Bardd Plant Cymru a sefydlwyd yn l yn 2000. Nod y cynllun yw annog plant a phobl ifanc i fwynhau a chreu barddoniaeth. Oddi ar sefydlu'r cynllun cyhoeddwyd cnwd o lyfrau barddoniaeth i blant yn cynnwys y dwys a'r digri.
Wel, dyma gyfrol arall i'w mwynhau - llond trol o gerddi i wneud i chi rowlio chwerthin wrth ddarllen 'y geiria bach joli/ sy'n codi o rwla'n eich bol chi'. Mae yma gerddi yn null yr hen benillion a limrigau doniol - ffurf a boblogeiddiwyd gan Edward Lear yn ei A Book of Nonsense (1846). Mae yma ddwyster hefyd, megis y gerdd 'Bocsys cardbord,' sy'n cymharu ein Nadolig gorlawn ni
Nadolig llwm plant y stryd.
Ond mae yma wledd arall yn eich disgwyl, sef darluniau lliw-llawn, llawn hiwmor, Helen Flook
- priodas berffaith rhwng gair a llun.
Dyma gyfrol addas i'r cartref ac i'r dosbarth i ysgogi plant i roi geiriau sy'n odli at ei gilydd i greu pennill neu gerdd, waeth pa mor bisr ydyw. A beth all y canlyniad hirdymor fod? Wel, 'ennill st bren am farddoni', yn l y llyfr hwn.
Afraid fyddai dyfynnu rhai cerddi rhag difetha'r hwyl; wedi'r cyfan, chi biau'r mwynhad o'u darllen. Cyfrol werth chweil - mynnwch gopi.
Menna Lloyd Williams @ www.gwales.com