A Welsh adaptation of a volume presenting seven diverse fairy tales from Wales. 8 colour and 9 black-and-white illustrations.
Dyma lyfr ardderchog sy'n bachu'r dychymyg o'r dechrau'n deg.
Mae'r storau'n ein tywys i'r byd afreal a chwedlonol, i wlad o hud a lledrith a gwallgofrwydd hyfryd!
Mae'r straeon wedi eu hysgrifennu'n syml, ond mae'r arddull yn ymestynnol gan gyflwyno'r ansoddeiriau, cymariaethau a'r idiomau sydd eu hangen i gyfoethogi iaith plant.
Mae yma ddefnydd cynnil o odl a chyflythreniad i gyfleu naws, a sawl disgrifiad cofiadwy fel 'chwyrlo a chwyrdroelli a llamu mewn dawns wyllt gyda phelydrau'r lleuad'.
Siomedig felly oedd darllen y gymhariaeth ar dudalen 34 - 'fel hen arth
phen tost' - sydd yn gyfieithiad o'r Saesneg.
Rwy'n sicr y byddai'r awdur wedi medru bathu cymhareb newydd sbon fan hyn!
Mae'r lluniau'n gyforiog o liw ac o gymeriadau arallfydol a dwl ? yr union beth sydd ei angen i ddenu plant at ddarllen llyfrau.
Mae'r storau'n llawn hiwmor ac yn ddigon gafaelgar i oedolion eu mwynhau hefyd.
Fe wnes i yn bendant!
Gaenor Watkins @ www.gwales.com