A lovely collection of bedtime stories based on the popular Radio Cymru 'Tic Toc' series.
Casgliad o straeon cyn-mynd-i'r-gwely hyfryd dros ben sy'n seiliedig ar gyfres Tic Toc, Radio Cymru. Mae'r casgliad yn cynnwys amrywiaeth o straeon am brofiadau cyfarwydd sy'n wynebu plant ifanc gan gynnwys themu megis rhannu ag eraill, bod yn unig blentyn, anifeiliaid anwes, dathlu pen blwydd, y Nadolig, y gofod, hud a lledrith, yn ogystal
chynnwys ambell stori am rai o gymeriadau cyfres Cyw, S4C, yn benodol Ben Dant a Cyw ei hun a'i ffrindiau. Ymysg y cymeriadau mwyaf difyr yn y gyfrol, mae'r Wmffifflwffs o'r gofod, y botel sos coch sy'n gallu siarad a'r pysgod sy'n cynnal eisteddfod yn y mr.
Cyhoeddwr: Gomer@Lolfa
Mae agor clawr y llyfr lliwgar hwn a theithio o dudalen i dudalen fel gwibdaith trwy gartwn ac yn berffaith i ddeffro dychymyg plant ifanc cyn iddynt fynd i gysgu. Mae llu o awduron poblogaidd wedi cyfrannu at y casgliad. Mae Anni Llyn yn mynd
ni i fyd yr Wmffifflwffs, Caryl Parry Jones yn gwneud i ni ddotio unwaith eto ar Cyw a'i ffrindiau, Casia Wiliam yn cyflwyno Ben Dant, a gwych yw cael nifer o'r cymeriadau poblogaidd hyn ar silff ystafell wely plentyn bach yn ogystal ag ar y sgrin deledu.
Pwy a wyddai fod poteli salad crm yn gallu siarad? Bod yr Wmffifflwffs wrth eu boddau gyda chn fach? Bod coblynnod cas yn gallu gwneud i liwiau ddiflannu? Mae'r gyfrol annwyl hon yn llawn dop a rhyfeddodau, cyfrinachau, creaduriaid o bob lliw a llun, heb son am y darluniau di-ri. Mae pob cymeriad yn hynod o hoffus ac yn siwr o godi gwn ar wynebau bechgyn a merched bach Cymru, boed hynny yn ystod amser stori yn yr ysgol neu cyn mynd i'r gwely.
Neidiwch i ganol y byd hwn o hud a hapususrwydd. Hwr, mae'n amser stori!
Llinos Griffin @ www.gwales.com