Tafodau symudol - Myrddin ap Dafydd

9781845273859

Oops!

Unfortunately it looks like someone took the last one.

Sign up to the musicMagpieStore to be the first to hear about the latest offers, competitions and product information!

Sign up now
Title
Tafodau symudol
Author
Myrddin ap Dafydd
format
Paperback / softback
Publisher
Gwasg Carreg Gwalch
Language
Welsh
UK Publication Date
20120503

A compilation of childrens poetry, written by the prolific Myrddin ap Dafydd. Features coloured drawings by Eric Heyman.

We are Rated Excellent on Trustpilot
Here's what you say about us...

Bydd y gyfrol yn cael ei lansio yng ngwyl Bedwen Lyfrau 2012 yn y Bala ar y 5ed o Fai 2012.
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch

Does dim yn well na chael plant i fwynhau darllen, a'u cael hefyd i fwynhau swn geiriau - ac y mae pob plentyn yn sicr o wirioni ar y gyfrol hon gan Myrddin ap Dafydd. Ceir yma chwech ar hugain o gerddi ar bob testun dan haul ac fe fydd nifer o'r pynciau yn taro tant gyda'r plant a'u rhieni. Faint ohonom sy'n gofyn i'r plant bob nos, 'Be 'nest ti'n yr ysgol heddi?' a faint ohonom sy'n cael yr ateb, 'Mm sai'n cofio.' Mae'r gerdd 'Be Wnest Ti yn yr Ysgol Heddiw?' yn canu cloch yn ty ni:

Ymm ...
Gest ti hwyl ar dy symiau?
Bore oedd hynny!
Fuoch chi'n sgwennu?
M ... mae'n siwr…
Am be?
Dwi ddim mor siwr ...

Ydi dy lyfr darllen gen ti'n saff?
Yndi.
Lle mae o?
Yn fy mag i.
Lle mae hwnnw?
Dwi wedi'i adael o yn yr ysgol.

A beth am ras gyfnewid flynyddol yr ysgol? Oes, mae yna gerdd i'r ras honno, cerdd sy'n adrodd rhybuddion tad i'w fab yn y sw a cherdd sy'n dehongli'r ddadl oesol ar adrodd a llefaru gyda llinell glo fel hon:

Adrodd neu lefaru, beth bynnag y bo
Dwi'm isio gwneud, a dyna fo.

Dyma gyfrol lawn sbort a chyfrol, a fydd, gobeithio, yn annog plant i ysgrifennu eu cerddi eu hunain.
Sarah Down-Roberts @ www.gwales.com

Type
BOOK
Keyword Index
Children and adults - Juvenile poetry.|Children - Juvenile poetry.|Humorous poetry.|Children's poetry.
Country of Publication
Wales

FREE Delivery on all Orders!