Yunis Khan is a talented striker who hopes to become a successful footballer. To please his father, he works through the night to complete his schoolwork, until things go wrong. Mari George's Welsh adaptation of Football Academy: Striking Out is part of a new series about young, promising footballers who yearn to make their dreams come true.
Cyfres newydd am chwaraewyr pl-droed ifanc ac addawol sy'n ysu am wireddu eu breuddwydion. Addasiad Cymraeg o Football Academy: Striking Out.
Cyhoeddwr: Gomer
Dyma addasiad arall o un o gyfrolau cyfres Football Academy, a'r tro hwn, mae Yunis, a fu'n gefn i Gwilym wrth i'r ddau anelu am y sr ac am le yn Academi Caerdydd, yn teimlo'r straen. Unwaith eto, nid aur yw popeth melyn ac mae llwyddo yn y byd pel-droed yn dod gyda'i drafferthion. Mae hon yn gyfres sy'n delio gyda mwy na gm y bl gron.
Mae Gwilym yn ffodus gan fod ei deulu yn ei gefnogi trwy'r broses o gael ei ddewis i ymuno 'r academi, ond nid felly Yunis. Dyw ei dad byth yno pan ddaw'r tadau eraill i gefnogi eu meibion, ac yn aml iawn, mae Yunis yn teimlo'n unig ac yn ysu am berthynas debyg gyda'i rieni. Wrth i'w yrfa newydd fynd o nerth i nerth a thaith i Wlad Pwyl yn y fantol, mae'n rhaid i Yunis wynebu ei drafferthion teuluol. Syndod iddo yw fod hiliaeth yn llechu yn y cefndir.
Mae'r gyfres hon yn llwyddo i gyfleu anawsterau ieuenctid wrth iddynt fentro i'r byd mawr neu redeg i ganol y cae pl-droed. Mae'r cymhlethdodau yn y straeon hyn yn addas ar sawl lefel, ac mi fyddan nhw'n apelio at gefnogwyr pl-droed ac at ddarllenwyr ifanc nad ydyn nhw'n dilyn y gamp honno.
Llinos Griffin @ www.gwales.com