A Welsh adaptation of Tilly and the Wild Goats, an exciting story about the adventures of two friends to save a family home and the habitat of a herd of wild goats, reflecting the importance of a good community, true friendship, and the environment. 85 black-and-white illustrations.
Mae'n dda gweld Cymdeithas Lyfrau Ceredigion yn parhau i ychwanegu teitlau da at ei chyfres hynod lwyddiannus ar gyfer plant tua 9 oed i fyny, sef Cyfres Madfall. Teitlau wedi eu haddasu o'r Saesneg yw'r rhain ac mae'n rhaid i mi ganmol addasiad medrus a llyfn Gwen Angharad Jones sy'n darllen yn rhwydd ac yn glir. Yn ogystal, roeddwn yn falch eithriadol o weld Gwen Angharad Jones wedi lleoli'r stori hon yn Arfon ac wedi rhoi naws cwbwl Gymreig iddi.
Helynt Tili Trotman a'i mam a geir yma, dwy o Loegr yn wreiddiol ond yn rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn. Maent yn wynebu bod yn ddigartref o'u ty rhent o fewn mis, ac ar ben hyn mae si ar led fod cwrs golff newydd i'w godi ger y pentref. Yn waeth na dim, bydd yn rhaid i'rgeifr gwyllt sy'n rhodio Caeau'r Afon chwilio am gartref newydd hefyd. Mae Tili a Gwilym, ei ffrind pennaf, yn trefnu deiseb i achub y geifr ac yn datrys y dirgelwch pam nad oes neb wedi gweld Mr Llywelyn, perchennog caeau'r cwrs golff arfaethedig.
Mae hon yn nofel afaelgar wedi ei hysgrifennu'n dda, ac mae digon o antur ynddi i gadw'r darllenydd i droi'r tudalennau. Diau hefyd y bydd yn cael ymateb gwresog mewn ysgolion gan fod ynddi negeseuon pwysig am gyfeillgarwch, gwarchod cymunedau a'r amgylchedd.
Nia Gruffydd @ www.gwales.com