Hurry, item low in stock!

Wps! - Dewi Pws

9781848513006
Hurry only 1 in stock!
FREE Delivery on ALL Orders!
Title
Wps!
Author
Dewi Pws
format
Paperback / softback
Publisher
Gomer Press
Language
Welsh
UK Publication Date
20111005

A colourful book of lively and humorous poems for children by Dewi Pws, the Welsh Children's Laureate for 2010-2011. A collection of 17 original poems by the word clown, illustrated by Eric Heyman. It's wild and mad and full of fun and the sound of laughing children!

We are Rated Excellent on Trustpilot
Here's what you say about us...

Wps!....Dyna chi Pws!

Wps!.
Dyna sy'n neidio o bob tudalen yn y gyfrol newydd ddireidus o gerddi i blant gan Dewi Pws a gyhoeddir gan Wasg Gomer. Y sbort a'r sbri, y chwerthin, y chwarae ar eiriau a'r jcs - dyna chi Pws i'r dim ac anagram o'i enw ei hun yw teitl y gyfrol liwgar hon a arluniwyd gan Eric Heyman o Gaerdydd.

Fel Bardd Plant Cymru 2010-11, cafodd Dewi amser wrth ei fodd gyda phlant o bob oed ar hyd a lled y wlad a chyflwynir Wps! 'I holl blant Cymru a wnaeth flwyddyn y Bardd Plant yn gymaint o hwyl!' Er iddo gyhoeddi cerddi, straeon a chaneuon i blant mewn cyfrolau eraill amrywiol, Wps! yw'r unig gyfrol o'i gerddi i blant .
Clywir ei lais digri drwy'r deunaw cerdd sy'n amrywio o ran hyd, ffurf a thestun.
Ceir cerddi i bobl fel Dat-cu a Fy Nghefnder Dei a hyd yn oed cyfle i ddyfalu Pwy yw Pwy? yn y gyfres o gwpledi e.e.

'Hedfan yn brysur o flodyn i flodyn,

A mwmian canu 'mond un nodyn'

Pa fath o fyd fyddai, tybed, pe byddai popeth yn ben i waered?

'Hufen i poeth a sglodion blas jam,

Babis yn beicio a'u rhieni mewn pram?

Wyddech chi fod yna dylwyth teg yn byw yn y goedwig ger Brynhoffnant?
Mae'n anodd iawn eu gweld nhw am eu bod yn newid lliw.

'Yna, os y'ch chi'n ffodus ,

Cewch eu clywed ambell waith

Yn chwarae yn y tonnau

I lawr ym mae Tre-saith.'

Mae Dewi wedi ymgartrefu ym mhentref hudolus Tre-saith yng Ngheredigion ac yn rhan o'r gymuned yno ond mae'n hanu'n wreiddiol o Dreboeth ger Abertawe.

Bydd plant yn cael eu denu'n syth gan luniau lliwgar a doniol Eric Heyman o Gaerdydd.
O weld llun Superman ar y ty bach,
y bachgen o ardal y Glais a'r jirff hirgoes, mae'n amlwg fod hiwmor yr awdur a'r arlunydd yn taro deuddeg.
Eric hefyd wnaeth
arlunio straeon Dewi Dwpsi a luniwyd gan Dewi a'i wraig Rhiannon.

Fel plentyn mawr ei hun, mae Dewi'n deall beth sy'n difyrru plant a gwneud iddyn nhw chwerthin.
Rhwng cloriau Wps! fe welir hynny i'r dim!
Cyhoeddwr: Gomer

Mae cerddi i blant yn aml yn syrthio rhwng dwy stl; un ai maen nhw'n gerddi y mae oedolion yn tybio bod plant eisiau eu darllen, neu maen nhw'n rhy blentynnaidd, heb y ddawn i ddenu plentyn na chynnig dihangfa o unrhyw fath. Mae cyfrol Dewi Pws yn osgoi'r ddau eithaf hyn.
Nid cerddi parchus y byddai rhiant am glywed ei blentyn yn eu hadrodd sydd yma, ond eto mae yma fyd anturus, dyrys a lliwgar. Mae'r cerddi yn mynd
phlentyn i fyd chwareus a direidus, byd lle mae Superman yn methu mynd i'r lle chwech a byd lle mae Tylwyth Teg y To yn gyfrifol am bopeth drwg y mae rhieni'n tueddu i ddwrdio'u plant amdano. Yn cyd-fynd 'r cerddi direidus y mae cyfres o luniau godidog gan Eric Heyman sy'n atgoffa rhywun o arddull cartwnau Spike Milligan ar ymylon sgriptiau sioeau radio'r Goons.

Mae cerdd megis 'Pen i Waered' yn atgoffa rhywun o wlad popeth o chwith yn Llyfr Mawr y Plant flynyddoedd yn l. Mae'r gerdd yn rhestru'r pethau anhygoel fyddai'n digwydd mewn byd ben i waered, `Glaw yn codi yn lle disgyn, /
Lloi'n dod o wye - dychmygwch y plisgyn...'
Gwyr Dewi Pws sut i ddeffro dychymyg plant a'u tynnu i chwarae
geiriau, odlau a syniadau.

Gallai ambell oedolyn dwt-dwtian y gyfrol hon fel un ansylweddol - bron yn gomic - yn hytrach na chyfrol o farddoniaeth 'go iawn'. Ond byddai cyhuddiad o'r fath yn dangos anwybodaeth o apl chwarae
geiriau, a gwadu bodolaeth y dychymyg byrlymus sydd yn plethu syniadau yn gwbwl ddilyffethair.

Pleser yw cael bodio o un ddalen i'r llall, ac mae hon yn gyfrol all sbarduno plentyn i weld ei fyd drwy lygaid newydd sbon.
Sarah Down @ www.gwales.com

Type
BOOK
Country of Publication
Wales
Number of Pages
32

FREE Delivery on all Orders!