Y Ddraig Goch - Emlyn Roberts

9780860742289

Oops!

Unfortunately it looks like someone took the last one.

Sign up to the musicMagpieStore to be the first to hear about the latest offers, competitions and product information!

Sign up now
Title
Y Ddraig Goch
Author
Emlyn Roberts
format
Paperback / softback
Publisher
Gwasg Gwynedd
Language
English
UK Publication Date
20060712

A detective novel, with elements of farce, recounting the murder of the Archdruid at a National Eisteddfod.

We are Rated Excellent on Trustpilot
Here's what you say about us...

Dim ond un nofel dditectif lle bu llofruddiaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol fedra i gofio'i darllen, sef Y Gadair Wag gan John Ellis Williams.
Fe'i cyfieithodd hi hefyd o dan y teitl Murder at the Eisteddfod.
Gwn am lawer o gerddi a chaneuon a lofruddiwyd yn y Brifwyl, ond mae Emlyn Roberts yn Y Ddraig Goch yn mynd
ni ar drywydd llofruddiaethau sy'n cynnwys dau Archdderwydd a Cheidwad y Cledd.

Dyma, am y tro cyntaf, ymgais i ysgrifennu yn Gymraeg yn genre Dashiell Hammett, Raymond Chandler a Mickey Spillane.
Cofiaf unwaith gael fy nhemtio i gystadlu yn y Genedlaethol ar gyfieithu un o nofelau Chandler.
Gwrthodais y demtasiwn am na welwn sut y gellid trosi Down Town Los Angeles i Gaernarfon neu Abertawe.
Wnes i byth feddwl y gallai weithio, tan nawr.

Mae nofel Emlyn Gomer wedi ei seilio ar blot digon tebyg i The Maltese Falcon, a ysgrifennwyd gan Hammett yn 1930.
Ond nid dynwarediad a geir yma.
Mae'r cyfan yn Gymraeg ac yn Gymreig, ac yn hyfryd o ddoniol.
Yn wir, rhag i neb ei gyhuddo o ddynwarediad, bu'n ddigon powld i achub y blaen drwy sn am The Maltese Falcon yn y nofel!

Cryfder y meistri Americanaidd oedd defnyddio brawddegau pytiog, bachog, a dyna geir yma.
Ac mae yma gymeriadau lliwgar sy'n haeddu eu lle mewn nofelau dilynol.
Mae'r prif gymeriad, Jaci Nora, yn rhyw gyfuniad o Sam Spade a Dic Preifat.
Yn gymdeithion iddo mae ei ysgrifenyddes, Hanna Barbara, ei fenyw ddiweddaraf, Lili Leddf, y feindlws Lois Calon, Clagwydd y tafarnwr, Stirling Moth, y cwcwallt, y Prifardd Melangell Fazackerly, Gyfylchi Gyfylchi (yn hytrach na Dwygyfylchi) a llawer, llawer mwy.

Mae cysylltiadau'r stori yn mynd
ni i bellafoedd byd, i Batagonia a hyd yn oed at Al Qaaeda.
Ac yn ganolog i'r cyfan mae'r Ddraig Goch.
Mae hi'n reiat o stori ac ni welwyd gymaint o gymeriadau brith ers creadigaethau Wil Cwch Angau (Glyn M. Ashton) 'nl yn y chwe degau.

Mae'r arddull yn berffaith ar gyfer stori o'r fath, yn symud yn gyflym, yn llawn 'one-liners', ac er gwaetha'r smaldod a'r ysgafnder ceir stori gref sy'n plesio.
Doniol tu hwnt yw rhestr Melangell o'r 'suspects', a'u cymhellion dros lofruddio'r Archdderwydd.
Yn eu plith mae llenorion, am mai bardd oedd yr Archdderwydd; y beirdd rhydd, am mai bardd caeth oedd e; y cwmnau teledu, am ei fod yn awyddus iddynt wasanaethu'r eisteddfod, yn hytrach nag i'r gwrthwyneb; yr ieuenctid, am fod yr Archdderwydd am ddileu'r maes ieuenctid.
Mae hi'n rhestr hir.

Fe wnes i fwynhau'r nofel hon o'r dechrau i'r diwedd.
Mae hi'n haerllug, yn ffres, yn wahanol ac yn hynod o ddoniol.
Lyn Ebenezer @ www.gwales.com

Type
BOOK
Keyword Index
Murder - Wales - Fiction.|Detective and mystery stories.
Country of Publication
Wales
Number of Pages
258

FREE Delivery on all Orders!