Hurry, item low in stock!

Y pants marwol - Michael Lawrence

9781843239635
Hurry only 1 in stock!
FREE Delivery on ALL Orders!
Title
Y pants marwol
Author
Michael Lawrence
format
Paperback / softback
Publisher
Gomer Press
Language
Welsh
UK Publication Date
20090623

A Welsh adaptation of a Jiggy McCue story, The Killer Underpants. Jigi ap Sgiw has a problem. His new underpants won't come off. Worse still, they have a mind of their own. An evil mind that seems to want to ruin his life. And it's succeeding!

We are Rated Excellent on Trustpilot
Here's what you say about us...

Hiwmor Ty Bach yn dal i apelio

Mae clywed straeon a jcs am dorri gwynt, pants a phob math o bethau ychafi yn siwr o
ennyn ymateb plant, yn enwedig bechgyn!
Awdur sydd wedi cydio yn y diddordeb heintus hwn er mwyn annog plant i ddarllen yw Michael Lawrence ac mae dau o'i lyfrau newydd eu haddasu i'r Gymraeg gan Wasg Gomer sef Y Pants Marwol a Ty Bach Tynged.
Y ddau frawd o Gaerdydd, Daniel a Matthew Glyn, gafodd y dasg o roi dogn o hiwmor iach (neu afiach) i mewn i'r straeon am y cymeriad doniol Jigi ap Sgiw.

Fu erioed br o bants fel rhai Jigi ap Sgiw.
Nid yn unig maen nhw'n edrych yn erchyll, mae e'n methu eu tynnu i ffwrdd ac maen nhw'n rheoli ei fywyd yn llwyr!
Dyna pam mae'n eu galw nhw'n bants marwol. Tybed pa fath o helynt fydd hyn yn ei achosi i Jigi a'i ffrindiau Pt ac Anni yn stori gyntaf y gyfres Y Pants Marwol?

Ty bach sy'n bygwth newid bywyd Jigi am byth yw cefndir yr ail stori, Ty Bach Tynged.
Does dim yn anghyffredin ynglyn ag ymweliad Jigi
chartre'i ffrindiau, Pt ac Anni, hynny yw tan iddyn nhw ddechrau chwarae gm newydd ar y cyfrifiadur.
Ond nid gm gyfrifiadurol gyffredin mo Ty Bach Tynged.
Pe byddech chi'n gweld y geiriau 'Gwasgwch y botwm i newid eich byd', fyddech chi'n mentro gwasgu'r botwm hwnnw?
Dyna wnaeth Jigi gan gyfnewid ei fyd am un chwithig iawn.
Ond a fydd Jigi'n llwyddo i fflyshio'i hunan allan o drwbwl cyn ei bod hi'n rhy hwyr?

Bydd plant tua 9-12 oed yn siwr o chwerthin yn uchel wrth droi tudalennau straeon Jigi. Os taw hiwmor ty bach sy'n eu troi yn ddarllenwyr brwd, mae hynny ei hun yn beth da yn yr oes hon!
Cyhoeddwr: Gomer

Mae gan bants Jigi ap Sgiw allu arbennig i ddylanwadu arno a dinistrio'i fywyd, ond mae hefyd yn rhoi grym ofnadwy iddo i reoli pobl eraill. Serch hynny, mae Jigi a'i ffrindiau, Anni a Pt, yn benderfynol o drechu'r pants - a brynwyd gan Mr D. A. Voll - ond mae'n anodd gan ei bod yn amhosib ei dynnu i ffwrdd. Wrth iddo chwilio am ffordd i drechu'r 'pants marwol' mae'n rhaid i Jigi hefyd wneud ei orau i osgoi camddefnyddio'r grym y mae'n ei gael wrth y pants, rhag ofn iddo benderfynu dial arno.

Mae addasiad Daniel Glyn o stori Michael Lawrence yn defnyddio iaith eithaf syml a llawer o hiwmor sy'n amlwg wedi'u hanelu at blant ifanc, ac mae'r llyfr yn ddigon byr ac yn llawn digwyddiadau i gadw diddordeb. Dyma enghraifft dda iawn o'r math o nonsens doniol sy'n berffaith ar gyfer y gynulleidfa darged.
Iwan Williams @ www.gwales.com

Type
BOOK
Keyword Index
Children's stories, Welsh.|Humorous stories, Welsh.|McCue, Jiggy (Fictitious character) - Juvenile fiction.|Underwear - Juvenile fiction.
Country of Publication
Wales
Number of Pages
144

FREE Delivery on all Orders!