Twelve-year-old Henri is a navigator in a rally for the first time with Dai Penywaun. But trouble comes their way - hitting a badger and a farm gate, a donkey that refuses to move from the middle of the road, and to make matters worse, it snows. Will they ever finish the rally?
Bron na fedrwch chi glywed rhu'r ceir ralo yn y llyfr hwn, wrth iddyn nhw gael eu taflu rownd corneli ac ar hyd lonydd cefn gwlad Cymru.
O'r eiliad mae Henri yn gwylio ei rali gyntaf mae'n gwybod mai gyrrwr rali y mae e am fod. Mi oedd ei dad yn gyd-yrrwr rali ar un adeg ac mae'r mab yn bendant wedi etifeddu ei frwdfrydedd. Anrheg ben blwydd Henri yn 12 yw cael ei gyflwyno i Dai Penywaun, gyrrwr rali lleol, ac yn fuan mae'n dod yn llywiwr iddo, yn rhoi cyfarwyddiadau yn ystod cystadlaethau.
Uchafbwynt y llyfr yw rali gyntaf go iawn Henri a Dai fel tm. Mae 'na anifeiliaid ar y ffordd, tywydd garw, troeon trwstan a digon o gyffro.
Drwyddi draw mae yna ddogn go lew o hiwmor, a dyw'r awdur ddim ychwaith yn anwybyddu realiti'r byd ralo. Cawn glywed am ofn ac am orfoledd Henri, am ba mor anghyfforddus ydi gyrru ar wib ac am y siom pan mae pethau'n mynd o chwith. Ac ar ben hyn i gyd mae yma ddigon o fanylder ynglyn
ralo a digon o ddisgrifiadau o'r rasys i blesio unrhyw un sydd
diddordeb yn y gamp!
Cerian Arianrhod @ www.gwales.com