A varied collection of twenty satirical and amusing short stories by a popular author, some stories having already been published elsewhere.
Roedd pobl yn arfer dweud bod nofelau Barbara Cartland i gyd yr un fath, heblaw am enwau?r cymeriadau a rhyw fanion eraill. Ond onid troedio?r un llwybrau y mae pob awdur mewn gwirionedd ? ailadrodd yr un stori mewn gwahanol ffyrdd? Yn sicr, dyma a geir yng nghyfrol ddiweddaraf Mihangel Morgan ? nid bod hynny o angenrheidrwydd yn beth drwg, wrth gwrs. Fe fydd nifer o?r straeon yn y casgliad hwn yn gyfarwydd oherwydd iddynt ymddangos eisoes mewn cyhoeddiadau eraill, ond yr hyn fydd fwyaf cyfarwydd fydd y patrymau a?r mynegbyst sydd wedi dod yn nodweddiadol o fyd hunangyfeiriol llenyddiaeth Mihangel Morgan.
O edrych ar glawr y llyfr hwn, gyda?i ehangder o wyn a?i luniau bach pert o gathod a chwn, rhwydd fyddai tybied mai deunydd digon diniwed sy?n llechu rhwng y cloriau. I unrhyw un sy?n gyfarwydd ag enw Mihangel Morgan, mae?n amlwg nad felly mohoni. Wrth gwrs, nid creaduriaid bach blewog ac annwyl yw cathod y teitl, ond cathod lledr sadomasocistaidd, a chwn wedi eu gwneud o sbwriel yw?r cwn. Yn yr un modd, ac yn nhraddodiad Mihangel Morgan, ceir cyffyrddiadau od eraill mewn sefyllfaoedd ?arferol?, megis y bobl
chynffonnau, neu?r ty bwyta sy?n gwerthu cig Panda. Mae sawl un o?r straeon yn ceisio darparu rhyw elfen annisgwyl neu od, rhai yn fwy llwyddiannus na?i gilydd. Y broblem i?r awdur hwn yw bod ei ddarllenwyr wedi dod i ddisgwyl yr annisgwyl erbyn hyn.
Fel yn ei nofel Melog, ond heb fod i?r un graddau, ceir ymgais yn y casgliad hwn i sefydlu cyfunrywioldeb fel y norm o fewn byd y straeon, a dynion yw mwyafrif llethol y cymeriadau. Ni cheir yma wleidydda rhywiol uniongyrchiol; yn hytrach, trosglwyddir y pwynt gwleidyddol trwy gyfrwng pentyrru cymeriadau cyfunrywiol a straeon ac iddynt berthynas gyfunrywiol.
Ond y mae?r awdur ar ei orau wrth ddisgrifio?r cymeriadau a?r sefyllfaoedd hynny sydd yn ymddangos dro ar l tro yn ei waith, ac sy?n cyson lwyddo i ddiddanu. Mae ei ddisgrifiadau dychanol o fywyd ysgolheigaidd neu o fywydau ecsentrig heb eu hail, a chrea ddarluniau byw a manwl o?i gymeriadau ? sy?n aml yn eneidiau ar y cyrion, yn bobl y cysgodion, yn ddirgel ddynion. Unwaith yn rhagor, mae ysgolheictod a?r canon Cymraeg dan ei lach, a straeon megis ?Recserseis Bwc? a ?Traed o Bridd Cleilyd? yn sicr o roi gwn ar wyneb unrhyw un sydd wedi astudio llenyddiaeth Gymraeg.
Yn Cathod a Chwn, mae Mihangel Morgan yn diddanu ac yn cwestiynu, yn ddoniol ac yn ddwys, ac yn darparu?r disgwyliedig ? ond heb siomi chwaith.
Lowri Roberts @ www.gwales.com