Y trwbadwr Dennis O' Neill - Frank Lincoln

9781843237181

Oops!

Unfortunately it looks like someone took the last one.

Sign up to the musicMagpieStore to be the first to hear about the latest offers, competitions and product information!

Sign up now
Title
Y trwbadwr Dennis O' Neill - portread
Author
Frank Lincoln
format
Paperback / softback
Publisher
Gomer Press
Language
English
UK Publication Date
20060728

A biography of the tenor from Pontarddulais, written by the broadcaster and classical music expert, Frank Lincoln.

We are Rated Excellent on Trustpilot
Here's what you say about us...

Cefais gyfle yn ddiweddar i ymweld
Thy Opera La Scala, Milan, un o dai opera enwoca'r byd, ac yng nghanol enwau cewri byd yr opera roeddwn yn teimlo'n hynod falch o'r cantorion Cymreig oedd wedi troedio'r llwyfan. Yn eu plith roedd y tenor, Dennis O'Neill, un a wnaeth argraff ddofn ar yr Eidalwyr (rhai sydd fel arfer yn feirniadol o unrhyw genedl arall sydd yn mentro canu yn eu tai opera hwy).
Roeddwn eisoes yn gyfarwydd
phennod Frank Lincoln ar Dennis O'Neill yn y gyfrol Hymns and Arias, Trevor Herbert a Peter Stead (Goln) yn y Saesneg, ond mae eisiau croesawu unrhyw lenyddiaeth am gerddorion yn y Gymraeg gan fod llenyddiaeth o'r fath mor brin, a chroesewir y llyfr hwn gan ei fod yn treiddio i mewn i gymeriad un o gantorion amlyca'r byd opera.

Nodwedd amlwg y llyfr yw bod Frank Lincoln yn adnabod ei wrthrych yn dda iawn; serch hynny, mae'n pwyso a mesur yn gytbwys gyfraniad a datblygiad Dennis O'Neill fel canwr a pherfformiwr. Mae hyn i'w ganmol yn fawr, oherwydd mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod yn disgwyl llyfr oedd yn ei frolio i'r cymylau, ond yn hytrach mae'n bwrw golwg wrthrychol ar ei fywyd.
Egyr yr awdur gyda'r teitl 'Ffawd' wrth i Frank Lincoln esbonio sut y bu i fam a thad Dennis O'Neill gwrdd trwy gyd-ddigwyddiad megis.
Cawn hanes ei fagwraeth yn yr ail bennod, ac er bod y llyfr yn dilyn trefn gronolegol fras, nid yw'r awdur yn cadw'n haearnaidd at hyn, ond yn hytrach yn llwyddo i ennyn diddordeb y darllenwr trwy ymhelaethu ar ambell safbwynt ac opera yng nghwrs bywyd Dennis O'Neill.

Yr hyn sy'n ddiddorol i mi yw datblygiad llais Dennis O'Neill, ac eto cawn Frank Lincoln ar ei orau yn esbonio cymhlethdodau'r llais dynol, yn ogystal ag esbonio'r anawsterau a gafodd y canwr yn y blynyddoedd cynnar.
Mae'n cymharu llais cynnar Dennis O'Neill
llais Dai Jones, Llanilar, gan nodi nad oedd gan Dennis O'Neill lawer o gwmpawd i'r llais.
Aeth am wersi at yr enwog Frederick Cox, Coleg Cerdd Manceinion, gwr a oedd yn gymaint o ddylanwad ar Gymry a Saeson.

Yn naturiol, mae'r awdur yn sn am uchafbwyntiau ei yrfa a'i lwyddiannau yn canu yn nhai opera mwya'r byd, yn ogystal
sn am y cantorion byd-enwog mae Dennis O'Neill wedi rhannu llwyfan
hwy, ac ambell dro trwstan ar y llwyfan hefyd!
Cawn gipdrem ar ei hoff operu, a'i angerdd wrth iddo bortreadu rl cymeriad arbennig trwy'r gerddoriaeth a thrwy actio, a chawn ddeall sut mae ei lais a'i gymeriad wedi datblygu i ganu Verdi, Ponchielli, Puccini, Leoncavallo yn hytrach na Mozart, er enghraifft, gan iddo ddechrau ei yrfa yn canu yn operu Mozart.

Yr hyn sydd yn hynod ddiddorol yn y llyfr yw cynlluniau Dennis O'Neill i agor Academi llais yng Nghaerdydd, ond nid wyf am ymhelaethu oherwydd mae'n rhaid ichi ddarllen y llyfr!
Trystan Lewis @ www.gwales.com

Type
BOOK
Keyword Index
Tenors (Singers) - Wales - Biography.
Country of Publication
Wales
Number of Pages
151

FREE Delivery on all Orders!